Eicon yn dangos fod "windows updates" ar gael i'w gosod.
Os symudwch eich llygoden at eicon y darian felyn fe welwch neges yn dweud fod meddalwedd newydd i'w osod.

Cliciwch ar y darian ac cewch ffenestr arall sy'n rhoi manylion i chi.

Cliciwch Install a bydd y meddalwedd yn cychwyn cael ei osod.

Wrth i'r meddalwedd cael ei osod bydd neges arall yn ymddangos ar waelod y sgrin, gallwch dal i ddefnyddio ei rhaglenni yn arferol.

Ar ôl i'r meddalwedd newydd gael ei osod bydd neges arall yn ymddangos yn gofyn i chi ail gychwyn eich cyfrifiadur.
No comments:
Post a Comment